Cei Newydd

Plymiwch i hanes Cei Newydd gyda ffilm 3D

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw’r daith gerdded

Cei Newydd, Ceredigion

Cyn gadael

Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig.

Dechrau/Diwedd

Dechreuwch a gorffen eich taith Harbwr Cei Newydd. Mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos yn nhref Cei Newydd. Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.

Pellter

Llwybr cerdded: 5km / 3 milltir

Taith gerdded estynedig: 3km / 2 filltir o Drwyn Llanina trwy ffordd fewndirol yn ôl i harbwr Cei Newydd.

Nigel Nicholas, Uchafbwynt Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

"Mae Cei Newydd llawn hanes, ac yn ystod y 18fed ganrif, roedd yn enwog am ei smyglwyr! Byddai llongau oedd yn cludo llwythi anghyfreithlon i fewn i Gwmtydu a Chei Bach yn angori allan yn y môr, a ganol nos byddai cychod rhwyfo bychain yn mynd allan atynt i gasglu gwinoedd a gwirodydd".

Gwybodaeth am llwybr 

Cychwynnwch trwy gerdded i’r dwyrain ar hyd mur yr harbwr gan fwynhau golygfeydd allan i Fae Ceredigion.  Wedyn anelwch am banel Llwybr Arfordir Cymru sydd o flaen y prif doiledau cyhoeddus. Defnyddiwch ap Llwybr Arfordir Cymru ar eich dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) i weld bywydau cyfrinachol y smyglwyr a darganfod mwy am orffennol Cei Newydd. 

Yn bellach ymlaen ar lan y môr, cyrhaeddwch bwynt hanner ffordd swyddogol Llwybr Arfordir Cymru, lle mae cerflun o forwyn brydferth wnaiff chwythu cusan atoch i ddymuno’n dda i chi ar eich taith. 

Ymwelwch â Gorsaf Bad Achub Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.  Cerddwch ar hyd y traeth lle cafodd cannoedd o slwpiau, sgwneri a chychod eu hadeiladu tan i chi gyrraedd Pwynt Llanina gyda’i olygfeydd godidog nôl at ‘y dref ar glogwyn’.  

Eisiau mynd ymhellach?

Gallwch naill ai ddilyn yr un llwybr nôl neu droi mewn i’r tir ar hyd yr Afon Llethi a dychwelyd ar hyd y ffordd. Edrychwch am Majoda, byngalo erbyn hyn, ond cwt yn wreiddiol, lle’r oedd Dylan Thomas yn byw a lle ysgrifennodd “Quite Early One Morning”, a ddatblygodd yn Under Milk Wood. 

Ar y ffordd

Mae dolffiniaid a llamhidyddion harbwr Bae Ceredigion yn olygfa drawiadol……edrychwch yn ofalus ar ddiwrnod llonydd ac efallai y byddwch yn ffodus i’w gweld yn chwarae!

Cynllunio'ch ymweliad

Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.

Lawrlwythwch y daflen deithio

Lawrlwythwch y daflen deithio Cei Newydd - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r  llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.

Gwyliwch ein fideo byr i weld nodweddion yr ap

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig