Cylchdaith Bae West Angle, Sir Benfro

Dyma daith gylchol â golygfeydd ysgubol draw tuag at Aberdaugleddau gyda sawl man hyfryd i orffwys er mwyn mwynhau’r prydferthwch

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Maes parcio traeth Bae West Angle

Pellter

4 milltir neu 6 km

Ar hyd y ffordd

Mae gan Fae West Angle draeth tywodlyd â phyllau glan môr o’i amgylch y gellir eu harchwilio – chwiliwch am y seren fôr glustog sy’n byw yn y bae. O’r traeth, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y clogwyni tywodfaen coch tua’r gogledd nes cyrraedd golygfan sy’n edrych ar draws Ynys Thorne, lle ceir caer o Oes Fictoria. Mae’n un o blith saith sy’n dyddio o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a adeiladwyd i amddiffyn Aberdaugleddau – sef un o borthladdoedd naturiol gorau’r byd – rhag ymosodiadau gan Ffrainc. Yn y diwedd, ni wnaeth y Ffrancwyr ymosod, a dechreuwyd galw’r caerau’n Ffug-gestyll Palmerston, ar ôl y Prif Weinidog a’u comisiynodd.

Wrth i chi fynd yn eich blaen ar hyd y llwybr, fe ddewch ar draws Caer Bae’r Capel, sef un arall o ffug-gestyll Palmerston. Heddiw, mae’r adeilad yn amgueddfa lle ceir offer a hen arfau sy’n deillio o’r cyfod pan arferai’r gaer fod yn safle milwrol. Os byddwch angen rhywfaint o luniaeth, mae yno gaffi sy’n gwerthu diodydd, byrbrydau a phrydau ysgafn. Os ewch yn eich blaen heibio i orsaf y bad achub, byddwch yn cyrraedd Bae Angle, sef ehangder o fwd a thywod lle ceir toreth o adar hirgoes fel piod môr a gylfinirod.

O’r fan hon, ni fyddwch fawr o dro â cherdded trwy’r pentref ar hyd y B4320 yn ôl at eich man cychwyn ym Mae West Angle.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Theresa Nolan, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Mae golygfeydd bendigedig o ddyfrffordd Aberdaugleddau i’w cael ar y daith gerdded hon, ynghyd â mannau braf i gymryd seibiant i werthfawrogi’r arfordir anhygoel".

Angen Gwybod

Ceir toiledau a chaffi ym maes parcio traeth West Angle, ynghyd â dwy dafarn yn y pentref.

Hefyd, gallwch gyrraedd Angle trwy ddefnyddio gwasanaeth bysiau ‘Gwibfws yr Arfordir’ o Benfro. Edrychwch ar wefan Sir Benfro i gael amseroedd a llwybrau bysiau.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch tafeln cerdded Cylchdaith Bae West Angle (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig