Llansteffan, Sir Gâr

Mwynhewch y daith gylchol hon â'i golygfeydd panoramig dros Aber Afon Tywi ac ymweliad â chastell Llansteffan

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Maes parcio Maes y Pentref, Llansteffan

Pellter

3 milltir neu 5 km

Ar hyd y ffordd

O’r maes parcio, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y draethlin dywodlyd, gyda thyrrau castell adfeiliedig Llansteffan i’w gweld ar y dde. Cyn bo hir byddwch yn cyrraedd Bae Scott, lle mae fila o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w gweld ger y tywod. Hefyd ceir Ffynnon Antwn Sant, sef ffynnon naturiol y credir bod ganddi nodweddion iachusol.

Yna, mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen at Drwyn Wharley, lle cewch olygfeydd ysblennydd ar draws Bae Caerfyrddin cyn belled ag Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint ar ddiwrnod clir. Hefyd, cewch weld man cyfarfod tair afon – Afon Taf, Afon Tywi ac Afon Gwendraeth – wrth iddynt ymuno cyn llifo i’r bae. Cyn bo hir bydd y llwybr yn troi tua’r tir, cyn cyfarfod ag is-ffordd. Trowch i’r chwith i fynd yn ôl i gyfeiriad Llansteffan heibio i fferm Lord’s Park, hyd nes y cyrhaeddwch Fae Scott unwaith eto.

O’r fan hon, gallwch naill ai aildroedio’r un llwybr ag o’r blaen ar hyd yr arfordir neu gerdded o amgylch ochr chwith Bryn y Castell i archwilio Castell Llansteffan. Mae’r lleoliad uchel, strategol hwn wedi bod yn gartref i gaerau a chestyll ers yr Oes Haearn, ac mae’r muriau a’r tyrrau a welir heddiw yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Dyma gastell llawn awyrgylch ac mae’n werth mynd yno os bydd gennych amser. O’r fan hon, ni fyddwch fawr o dro â cherdded yn ôl i’ch man cychwyn.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Nigel Nicholas, swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"I gael golygfeydd dramatig ar draws aber eang Afon Tywi, dringwch at adfeilion ysblennydd castell Llansteffan. Yn wobr am eich ymdrechion, cewch olygfeydd panoramig – byddant yn siŵr o’ch cyfareddu!"

Angen Gwybod

Mae toiledau cyhoeddus a mannau parcio i’w cael wrth fannau cychwyn a gorffen y daith gerdded, ynghyd â nifer o dafarnau a chaffis yn y pentref.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig