Llwybr Arfordir Cymru Ar Fws

Mae cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar fws yn rhyfeddol o rwydd yn y mwyafrif o leoedd. Mae digon o fodd dewis, felly, cerdded y naill ffordd, a dal bws y ffordd arall

Yn gyffredinol, argymhellwn deithio allan ar fws, a cherdded yn ôl, gan fod hynny’n arbed i chi boeni am ddisgwyl am hydoedd ar ben eich taith.

Ar y llaw arall, golyga cerdded allan a dychwelyd ar fws nad oes rhaid i chi gyrraedd unrhyw fan penodol. Gallwch amrywio hyd eich taith yn ôl eich dymuniad ar y diwrnod.

Mae’r mapiau yn yr adran adnoddau isod yn dangos llwybrau bysiau sy’n cydgysylltu cymunedau’r glannau.

Mae’r union amserlenni ar gael ar wefan TravelineCymru.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.