Caldicot i Cas-gwent

Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth o hanes

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed i Gastell Cas-gwent.

Pellter

9 milltir / 14 cilometr, neu 10 milltir / 16 cilometr trwy ychwanegu'r daith gerdded o amgylch parc gwledig Castell Cil-y-coed.

Ar hyd y ffordd

Cychwynnwn y llwybr hwn yng ngerddi tawel a pharc gwledig coediog 55 erw Castell Cil-y-coed.

Wedi'i sefydlu gan y Normaniaid, a ddatblygwyd fel cadarnle yn yr Oesoedd Canol, yna wedi'i adfer yn gartref teuluol Fictoraidd, mae gan y castell hanes rhamantus a lliwgar.

Mae gennym opsiwn i ymestyn y daith gerdded hon ychydig trwy ddilyn y Llwybr Cerdded Iach o amgylch y parc gwledig dymunol iawn.

Yna i lawr at Aber Afon Hafren trwy droi i'r dde ar ffordd osgoi Cil-y-coed y B4245, gan groesi'n ofalus i gerdded i lawr Pill Row, ac yn olaf troi i'r dde i Ffordd Symondscliff i groesi'r rheilffordd ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.

Mae gan yr aber yr ail amrediad llanw uchaf yn y byd (14.5 metr neu 48 troedfedd) a cherhyntau cryf. Ar drai mae llawer o'r aber yn fflatiau llaid sydd wedi'u dynodi'n Ardal Gwarchodaeth Arbennig, wedi'u hamddiffyn oherwydd eu rhywogaethau adar mudol prin, bregus sy'n digwydd yn rheolaidd.  Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, safle a warchodir o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 oherwydd ei fflora, ffawna, a nodweddion daearegol neu ffisiograffig.

Ymunwn â Llwybr Arfordir Cymru yng nghysgod Ail Groesfan Hafren sy'n tair milltir o hyd, camp aruthrol o beirianneg a gwblhawyd ym 1996.

Anheddiad hynafol

Wrth fynd i fyny’r aber buan iawn y cyrhaeddwn Sudbrook, pentref sydd â gwreiddiau llawer hŷn nag y mae’n ymddangos. Yng ngweddillion hen Gaer Sudbrook, Portskewett canfuwyd crochenwaith o'r Oes Haearn, Rhufeinig a chanoloesol.

A gerllaw, adfeilion atgofus Eglwys y Drindod Sanctaidd yw'r cyfan sydd bellach yn weddill o anheddiad canoloesol. Wedi'i adeiladu yn y ddeuddegfed neu'r drydedd ganrif ar ddeg, roedd yn dal i gael ei ddefnyddio yn 1560 ond cafodd ei adael erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Mae'r olion bellach yn gorwedd yn beryglus o agos at ymyl y clogwyn sy'n dadfeilio.

Dan ein traed

Yn union o dan ein traed yn y fan hon mae rhan isaf twnnel Hafren, y llwybr pedair milltir o hyd, 125 oed, sy’n cludo trenau o dan yr aber.

A dyna pam yr adeiladwyd Gorsaf Bwmpio enfawr Sudbrook yma. Mae'n atal y twnnel rhag gorlifo trwy bwmpio 10 miliwn galwyn o ddŵr bob dydd. Byddwn yn mynd heibio i Ganolfan y Twnnel, sy'n werth ymweld â hi pan fydd ar agor, gan ei bod yn adrodd hanes yr ardal a sut yr adeiladwyd y croesfannau. Mae ganddi hefyd doiledau ac, am gyfraniad, cyfleusterau gwneud diodydd.

Ychydig ymhellach ymlaen, rydym yn cyrraedd safle picnic Black Rock, lle gwych i aros i fwynhau pecyn bwyd. Gallwn hefyd weld 2 gerflun yma, Y Pysgotwyr a Y Peiriannydd, sy’n cynnig cyfle gwych i dynnu lluniau.  

Awn ymlaen i fyny'r aber am filltir a hanner nes bod y llwybr yn troi tua'r tir wrth gyrraedd St Pierre Pill. Mae’r term “Pill” yn enw cyffredin ar nant lanw neu afon fechan ar y ddwy ochr i Aber Afon Hafren. Ewch ar droed tua’r tir ac fe welwch St Pierre Marriott Hotel and Country Club, lle cyfleus i aros am damaid i fwyta ac i ddefnyddio'r toiledau.

Pentref bychan, hanes mawr

Ymhen rhyw filltir arall cyrhaeddwn Matharn – pentref bychan arall gyda hanes mawr.

Eglwys Sain Tewdrig yn ôl y sôn yw man claddu cyn frenin Morgannwg. Wedi'i alw o ymddeoliad i wthio ymosodiad y Sacsoniaid, enillodd Tewdrig y frwydr yn Nhyndyrn ond cafodd ergyd farwol i'r benglog. Golchwyd ei glwyfau mewn ffynnon ar ei daith olaf a gellir dod o hyd i Ffynnon Tewdrig ar y ffordd i'r eglwys hyd heddiw.

Gofynnodd am adeiladu eglwys lle bynnag y bu farw ac mae llechen yn yr eglwys yn cofnodi manylion sgerbwd a ddarganfuwyd o dan lawr y gangell gan archeolegwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n debyg bod y benglog wedi'i hollti gan ergyd gan arf tebyg i fwyell.

Rhwng 1408 a 1705 Palas Matharn, adeilad rhestredig Gradd I, oedd prif breswylfa Esgobion Llandaf. Ar ôl mynd â’i ben iddo, cafodd ei adfer a gosodwyd ei erddi rhwng 1894 a 1899. 

Ac mae Moynes Court yn adeilad rhestredig Gradd II  a gafodd ei ailadeiladu fel preswylfa breifat gan Francis Godwin, Esgob Llandaf tua 1610. Mae llawer o'r adeilad o'r cyfnod hwnnw yn parhau er y credir bod cloddiau yn y gerddi yn sylfeini i faenordy a ffos cynharach.

Wrth adael Matharn rydym yn croesi o dan yr M4 ac yn anelu am Gas-gwent. Pan fydd y llwybr yn mynd i ardal goediog yn Thornwell, cofiwch droi i gael golwg ar yr olygfa wych o Bont Hafren ar draws ceg yr Afon Gwy

Gwersyll Oes Haearn

Mae olion o Wersyll Bwlwarcau o ddiwedd Oes yr Haearn yn hawdd i'w methu ond os edrychwn ychydig yn agosach fe welwn olion lloc sydd wedi'i nodi gan glawdd dwbl a ffos.

Mae'n debyg i'r llecyn hwn gael ei ddewis fel lleoliad ar gyfer caer oherwydd ei safle strategol bwysig yn gorwedd ar glogwyn yn edrych dros Afon Gwy - fe'i meddiannwyd yn ddiweddarach gan y Rhufeiniaid.

Muriau tref canoloesol

Gan symud ymlaen ar hyd cyrion y dref, deuwn ar draws olion muriau tref canoloesol Cas-gwent. Adeiladwyd y muriau rhwng 1272 a 1278 ac mae’r muriau yn parhau yn nodwedd drawiadol o'r dref heddiw.

Yn wreiddiol yn ymestyn am bron i dri chwarter milltir o'r castell i Afon Gwy, roedden nhw'n amgáu'r dref ganoloesol, ei phorthladd ac ardal fawr agored o berllannau a dolydd.

Castell mawr

Ac o'r diwedd rydym yn cyrraedd Castell Cas-gwent sydd wedi'i chadw'n hyfryd. Comisiynwyd gorthwr y Tŵr Mawr gan William Goncwerwr prin flwyddyn ar ôl Brwydr Hastings, sy’n golygu mai dyma’r castell carreg ôl-Rufeinig hynaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

O bosibl y lle gorau ym Mhrydain i weld sut y newidiodd cestyll dros amser i wrthsefyll arfau newydd a mwy pwerus, a galwodd rhai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y canol oesoedd a chyfnod y Tuduriaid hwn yn gartref.

Am fwy na chwe chanrif roedd yr aristocratiaid hynod ddylanwadol a hynod gyfoethog hyn yn addurno'r castell gyda'u haur, arian, sidanau cywrain a dodrefn wedi'u paentio'n llachar.

Ymhlith uchafbwyntiau’r castell mae drysau castell hynaf Ewrop a’r porthdy dau dŵr cyntaf ym Mhrydain.

Ar ôl i ni orffen crwydro’r castell fe ddylem groesi'r Hen Bont Gwy i ochr Lloegr Afon Gwy – mae'r golygfeydd oddi yno o'r castell ar ben y clogwyni calchfaen uwchben Afon Gwy yn eithaf ysblennydd. 

O'r fan hon, gallwch ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, y llwybr cerdded 177 milltir o hyd sy'n teithio ar hyd Cymru, ar hyd y ffin â Chymru a Lloegr.

Uchafbwyntiau'r daith

Dywedodd Tricia Cottnam, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Wedi’i leoli’n bennaf rhwng dwy bont Aber Afon Hafren, mae hon yn daith ddiddorol iawn i fyny’r aber ac Afon Gwy ym mhen draw (neu ddechrau) Llwybr Arfordir Cymru. Ar wahân i’r gorchestion pensaernïol modern amlwg, mae llawer o hanes i’w archwilio, o gaerau hynafol o’r Oes Haearn i adfeilion aneddiadau canoloesol a Chastell ysblennydd Cas-gwent.”

Angen gwybod

Mae’r holl gyfleusterau ar gael yng Nghil-y-coed a Chas-gwent, ond ychydig iawn o wasanaethau sydd ar gael rhyngddynt.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd rhwng Cil-y-coed a Chas-gwent a gorsaf reilffordd tua milltir i ffwrdd o ddechrau'r llwybr hwn yng Ngorsaf Twnnel Cyffordd Hafren.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Caldicot i Cas-gwent (JPEG, 3.05MB)