Porthcawl i Aberogwr

Taith sy’n cychwyn mewn tref dwristiaeth boblogaidd, yn ymweld â gwarchodfa natur bwysig a phentrefan hyfryd gyda phen y daith yn cynnwys castell hynafol a thref glan môr boblogaidd

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Cychwyn ym Mhorthcawl, gorffen yn Aberogwr

Pellter

8 milltir / 13 cilometr

Ar hyd y ffordd

Cychwyn o Borthcawl, a dyfodd yn borthladd i allforio glo a mwyn haearn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a newidiodd i fod yn gyrchfan i dwristiaid pan ddewisodd llongau i ddefnyddio dociau mwy ym Mhort Talbot a’r Barri ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae’r harbwr hanesyddol bellach wedi’i drawsnewid yn farina modern ac mae Adeilad Jennings, sef warws bondio hynaf Cymru, wedi’i drawsnewid yn ardal ar gyfer caffis a bwytai bywiog.

Efallai mai’r olygfa fwyaf cyfarwydd ym Mhorthcawl heddiw yw’r goleudy haearn bwrw hecsagonol rhestredig. Efallai ei fod yn enwog oherwydd y lluniau trawiadol sydd ar gael ohono o donnau'n chwalu i'r morglawdd yn ystod stormydd, gan orchuddio'r goleudy ei hun hyd yn oed.

Canrif o dwristiaeth

Datblygodd ffair enwog Coney Beach ym Mhorthcawl ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i ddiddanu milwyr America. Cafodd ei enwi fel teyrnged i barc hamdden enwog ar Ynys Coney yn Efrog Newydd.

Ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn sgil dyfodiad Pythefnos y Glowyr (fideo gan BBC Cymru Waeles ar Facebook) – dyma’r ddwy wythnos yn ystod yr haf pan oedd y rhan fwyaf o bobl y cymoedd glofaol yn ymweld â glan y môr - fe dyfodd Porthcawl yn gyflym i fod yn un o'r cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd yn y wlad.

Mae llwybr swyddogol Llwybr Arfordir Cymru allan o Borthcawl yn mynd ychydig i mewn i’r tir cyn mynd ar hyd palmant ar ymyl y traeth. Ond, os nad yw’r llanw i mewn, gallwch gerdded ar draws y tywod ar draethau poblogaidd Bae Sandy a Bae Trecco.

Ar ôl amgylchynnu penrhyn Newton, mae'r llwybr yn gwyro i'r dde ond efallai mai dargyfeiriad diddorol yn y fan hon fydd parhau i gerdded yn syth ymlaen i bentref bach tlws Newton.

Sefydlwyd Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr sy’n dal i edrych dros faes y pentref, gan Farchogion Urdd Sant Ioan o Jerwsalem 800 mlynedd yn ôl ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol fel caer. Gerllaw, dywedir bod gan ffynnon Sant Ioan rinweddau iachau.

Mae tafarn y Jolly Sailor, y dafarn hynaf ym Mhorthcawl, a thafarn yr Ancient Briton hefyd yn edrych dros y grin.

Yn ôl ar lwybr yr arfordir byddwn yn gadael Porthcawl ac yn ymuno ag Arfordir Treftadaeth Morgannwg.  Mae14 milltir o glogwyni plymio, creigiau rhyfeddol o ran eu ffurfiant, traethau bach diarffordd a golygfeydd trawiadol. Mae rhannau dechreuol y daith ar hyd rhan wastad o’r arfordir ac ar ôl rhyw filltir mae rhywun yn dechrau teimlo fel ein bod bron â chyrraedd pen ein taith.

Rhai o dwyni tywod mwyaf Ewrop

Mae Aberogwr yn teimlo mor agos fel eich bod yn teimlo eich bod bron a’i gyffwrdd. Ond mae afon Ogwr a’i haber yn ein rhwystro ac mae’n rhaid troi i mewn i’r tir i gyfeiriad Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwningar Merthyr Mawr.

Mae’r warchodfa hon yn cynnwys system helaeth o dwyni. Mae’n gartref i bob math o blanhigion a phryfed prin. Mewn gwirionedd, mae dros un rhan o dair o holl blanhigion a phryfed sydd i’w gweld yng Nghymru i'w cael yma.

Ond i ffynnu, mae bywyd gwyllt mewn twyni tywod angen tywod moel sy’n symud yn gyson, ac mae’r ardal wedi dioddef ar ôl i helygen y môr gael ei phlannu yma yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlogi’r twyni tywod. Mae prosiect cadwraeth mawr bellach ar y gweill i adfywio rhai o'r ardaloedd hynny sy’n fwy sefydlog.

Os ydych chi’n teimlo’n anturus, gallwn wyro oddi ar y llwybr i archwilio’r copaon tywodlyd a’i ddyffrynnoedd culion neu beth am roi tro ar ddringo’r Big Dipper. Dyma’r twyn tywod talaf yng Nghymru.

Tua milltir ar ôl troi i ffwrdd o'r arfordir fe gyrhaeddwn faes parcio yng nghefn y twyni tywod. Yma fe fydd cyfle i weld rhai o adfeilion Castell Candleston. Yn swatio yn y coed ar gyrion Merthyr Mawr, mae’r maenordy hwn o’r bedwaredd ganrif ar ddeg bellach yn adfail hudolus sydd bellach wedi’i orchuddio ag iorwg.

Ychydig ymhellach ymlaen rydym yn cyrraedd pentrefan unigryw Merthyr Mawr. Gyda’i fythynnod to gwellt a’i eglwys hynafol, mae’r pentref yn ymgorfforiad o bentref gwledig hyfryd a ffyniannus o’r oes a fu.

Castell a godwyd rhag ymosodiadau gan y Cymry brodorol

Mewn byr dro, mewn lleoliad godidog ar lan yr afon,  byddwn yn cyrraedd Castell Ogwr a adeiladwyd gan y Normaniaid sydd, ynghyd â Coety a Newcastle, yn rhan o driawd o gestyll lleol fu’n gwarchod rhag ymosodiadau gan y Cymry brodorol oedd yn rheoli’r tiriogaethau i’r gorllewin.

Ar ôl croesi’r afon Ewenni, mae tafarn gyda’r enw gwahanol sef y Pelican in her Piety yn rhoi cyfle am ychydig seibiant. Mae'r enw yn deillio o alegori Cristnogol hynafol lle portreadwyd pelican yn tynnu ei gwaed ei hunan i fwydo ei chywion. Defnyddiwyd hwn yn aml mewn herodraeth ganoloesol i ddarlunio hunanaberth ond mewn gwirionedd mae'n gamddehongliad o belican llawndwf yn ailchwydu bwyd i'r cywion.

Nawr mae'r llwybr yn dilyn yn gyfochrog â'r ffordd uwchben afon Ogwr. Mae eogiaid a sewin yn nofio i fyny'r afon yn ystod y tymor deor. Mae hyrddiaid (mullet), lledod (flounder) a draenogiaid y môr (bass) i'w gweld yn y rhannau o’r afon sydd gerllaw’r môr. Mae adar sy’n ymweld yn ystod y gaeaf yn cynnwys hwyaid llygad aur (golden eye ducks) a chornchwiglod (lapwings).

Wrth i chi gyrraedd Aberogwr, fe welwch ar y dde y fan lle roeddech chi’n sefyll ar ochr arall yr Ogwr rhyw bedair milltir yn ôl yn ogystal â’r llwybr yn ôl i’r man cychwyn ym Mhorthcawl.

Uchafbwyntiau cerdded

Yn ôl Tricia Cottnam, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Mae’n anodd dychmygu mwy o wrthgyferbyniad nag o’r hyn a geir rhwng y ffair fyrlymus sydd i’w gweld ar ddechrau’r daith gerdded hon a heddwch a thawelwch Cwningar Merthyr Mawr neu ardal boblogaidd Ogwr ar ddiwedd y daith. Mae pentref bychan Merthyr Mawr yn hyfryd ac os ydy amser yn caniatáu yna fe fyddai’n werth ymweld ag adfeilion diddorol Castell Ogwr.”

Angen Gwybod 

Mae’r cyfan o’r cyfleusterau ar gael ym Mhorthcawl. Mae siop fechan, ciosg sydd ar agor yn ystod y tymor, toiledau a maes parcio yn Aberogwr. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi map toiledau cenedlaethol ar gyfer Cymru sy'n dangos lleoliad toiledau cyhoeddus.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd rhwng Porthcawl ac Aberogwr, ond mae teithiau’n cymryd bron i awr ac yn gofyn am newid ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gall fod yn fwy cyfleus defnyddio dau gar neu gael tacsi.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Porthcawl i Aberogwr (JPEG, 2.31MB)