Casnewydd

Taith gerdded drefol hanesyddol a diwylliannol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Tŷ Tredegar i Gastell Casnewydd.

Pellter

5 milltir / 8 cilometr.

Ar hyd y ffordd

Dyna ddechrau gwych i daith gerdded.

Mae Tŷ Tredegar yn un o dai pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg ym Mhrydain. Mae’n cael ei gydnabod fel un o ryfeddodau pensaernïol Cymru.

Wedi'i adeiladu o garreg yn wreiddiol ond fe'i hailadeiladwyd yn sylweddol rhwng 1664 a 1672 gyda brics coch, a oedd yn ddeunydd adeiladu prin a drud ar y pryd.

Wedi’i leoli mewn 90 erw o erddi a pharcdir hardd, mae’r tŷ hanesyddol hwn yn rhoi cychwyn hynod ddiddorol i’r diwrnod.

Teulu gwych

Roedd un o'r teuluoedd Cymreig mwyaf, y teulu Morgan, yn byw ar y safle o 1402 ac yn hawlio disgyniad oddi wrth y Tywysogion Cymreig.

Fe lwyddodd y teulu i oroesi sawl tro ar hyd y canrifoedd ond daeth y diwedd yn yr ugeinfed ganrif gydag Evan Morgan oedd yn gymeriad gwyllt ac ecsentrig. Roedd yn enwog am gynnal sesiynau hud a dewiniaeth ddu a phartïon afradlon. Bu farw yn 1949 gan adael etifeddiaeth o sgandalau a baich ariannol a olygai fod yn rhaid gwerthu Tŷ Tredegar.

O’r fan hon mae’n llai na milltir i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy fynd i lawr Rhodfa Tŷ Tredegar ac yna troi i’r chwith ar hyd Duffryn Way am tua 600 metr. Ar ddiwedd y ffordd, croeswch Lighthouse Road ac ewch i'r chwith. Ychydig cyn y tai cymerwch dro i’r dde i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.

Mae’r llwybr yn parhau heibio i dai, siopau ac ardaloedd diwydiannol ond mae digon o lefydd i gael tamaid i’w fwyta ar hyd y ffordd.

Pont ryfeddol

Llai na dwy filltir ar hyd y daith rydym yn cyrraedd Pont Gludo eiconig Casnewydd, sy’n bont unigryw sydd wedi dominyddu tirlun trefol Casnewydd ers i’r bont agor gyntaf yn 1906.

Oherwydd amrediad llanw enfawr afon Wysg, roedd hi’n anodd penderfynu sut orau i groesi’r afon. Roedd angen codi pont oedd yn caniatáu i longau deithio ar hyd yr afon. Doedd dim modd chwaith i gynnig gwasanaeth fferi reolaidd yn y fan hon. Y datrysiad oedd codi’r bont hon sef yr ‘aerial ferry’ fel ei gelwir.

Mae'r bont hon yn un o chwech yn unig o bontydd tebyg a adeiladwyd ar draws y byd sy’n aros  - a hynny allan o’r ugain pont o gynllun tebyg a godwyd erioed.

Mae'r bont hon yn un o chwech yn unig o bontydd tebyg a adeiladwyd ar draws y byd sy’n aros  - a hynny allan o’r ugain pont o gynllun tebyg a godwyd erioed. Edrychwch ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau Pont Gludo Casnewydd.

I fyny aber Afon Wysg

Ymlaen â ni yn awr i fyny glan orllewinol aber afon Wysg, gan ddilyn y prif lwybr ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru cyn belled â bwa dur City Bridge – y bont cebl gyntaf ar gyfer priffordd a godwyd yn y DU. Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi’r Afon Wysg, ond rydym ni’n parhau i ddilyn i fyny’r afon.

Yr afon Wysg yn un o afonydd hiraf Cymru sef tua 75 milltir. Mae’n tarddu ym mynyddoedd canolbarth Cymru cyn cyrraedd y lleoliad hwn lle mae ganddi’r amrediad llanw mwyaf o unrhyw afon o fewn canol dinas yn y byd. Mae wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) gyda gwastadeddau llaid, morfa heli, lagwnau, corsydd, glaswelltir amrywiol a chynefinoedd coetir sy’n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Yn fuan fe ewch heibio i bont droed sy’n cysylltu glan ddwyreiniol afon Wysg â datblygiadau newydd ar y lan orllewinol. Mae'r bont wedi ennill gwobr dylunio ac fe agorwyd y bont 100 mlynedd i'r diwrnod ar ôl agor y Bont Gludo

Rhai dewisiadau eraill o ran llwybrau

Ar ôl rhyw hanner awr (yn union ar ôl mynd heibio adeilad y brifysgol cymerwch y groesfan i Friars Walk, canolfan siopa, ardal fwyta a hamdden, mae gennych y dewis i fynd ar amrywiad byr i’r llwybr drwy fynd i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd sy'n adrodd hanes Casnewydd o’r cyfnod cynhanes hyd at yr ugeinfed ganrif. Mae’r Amgueddfa a’r Oriel yn cynnal arddangosfeydd hynod ddiddorol sy’n ymwneud â hanes cymdeithasol, astudiaethau natur, archaeoleg a chelf.

Wrth gerdded yn ôl i gyfeiriad yr aber ac wrth i chi gerdded ychydig ymhellach i fyny’r afon fe fyddwch yn cyrraedd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Dyma gartref i brofiadau theatrig a sinematig, gydag oriel gelf yn cynnal amrywiaeth eang o arddangosfeydd gan artistiaid proffesiynol ac artistiaid sy’n ennill eu plwyf, cerflunwyr, grwpiau cymunedol ynghyd ag ysgolion yn gweithio mewn nifer o wahanol gyfryngau.

Rydym hefyd yn cerdded heibio i un o gerfluniau nodedig sydd i’w gweld yng Nghasnewydd. Mae’r Steel Wave yn 40 troedfedd o uchder ac wedi’i greu gan Peter Fink yn 1991. Dyma symbol o’r fasnach  bwysig fu mewn dur a’r fasnach forol fu mor bwysig yn natblygiad Casnewydd.

Gorffen yn y castell

Mewn byr dro byddwn yn cyrraedd diwedd ein taith gerdded yng Nghastell Casnewydd.

Er bod y castell bellach wedi’i amgylchynu gan dirlun trefol mae’n dal yn bosibl cael ymdeimlad o faint y castell. Beth am groesi’r bont i’w weld o lan ddwyreiniol afon Wysg i gael cadarnhad o hyn? Oddi yma mae ei dŵr canolog, gyda dau dŵr arall o'i boptu, yn rhoi syniad o ba mor fawreddog y byddai’r castell wedi bod ar un adeg.

Wedi'i adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd ffos ddofn o'i amgylch yn wreiddiol. Roedd y ffos hon yn cael ei lenwi a dŵr yn ystod cyfnodau o lanw uchel - un o fanteision amlwg ei leoliad.

Yn 1405, bu'n rhaid atgyweirio'r castell yn drwm yn dilyn ymosodiad gan Owain Glyndŵr. Cafodd ei adnewyddu'n sylweddol ar ddechrau'r bymthegfed ganrif cyn mynd â'i ben iddo tua chanrif yn ddiweddarach.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn gartref i danerdy ac yna bragdy cyn cael ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith yn ystod yr 1930au.

Nodwedd brin o’r castell yw’r gât ddŵr y gellid ei gyrraedd mewn cwch ar lanw uchel. Dyma un o ddau yn unig sydd ar ôl i’w gweld yn y wlad. Mae’r llall i’w weld yn Nhŵr Llundain. O’r fan hon mae’r daith gerdded fer hon yn ein harwain yn ôl i’r maes parcio neu’r orsaf reilffordd.

Uchafbwyntiau’r daith

Yn ôl Tricia Cottnam, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Er bod hon yn daith gerdded drefol weddol fer, mae digon i’w weld. Mewn pum milltir cawn gyfle i weld un o dai gorau’r ail ganrif ar bymtheg ym Mhrydain, edrych ar groesfan afon eiconig a gwahanol, ymweld ag atyniadau diwylliannol cyfoes a gorffen wrth weddillion castell o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.”

Angen Gwybod 

Os ydych chi’n cyrraedd Casnewydd ar y trên, mae’r daith gerdded fer o’r orsaf reilffordd i Orsaf Fysiau Casnewydd - mae gwasanaeth bws cyson o’r fan hon i fynd â chi i fan cychwyn y llwybr cerdded yn Nhŷ Tredegar.

Os byddwch yn cyrraedd mewn car, parciwch yn un o feysydd parcio cyhoeddus Casnewydd ger yr orsaf fysiau. Yr agosaf yw'r NCP ar North Road.

Mae yna nifer o ddewisiadau ar gyfer lluniaeth ar gael ar hyd y daith, neu ychydig oddi ar y llwybr, gan gynnwys Caffi’r Bragdy yn Nhŷ Tredegar a Chaffi Glan yr Afon yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.

Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn yr un mannau.

Map

Lawrlwythwch map taith Casnewydd (JPEG, 4.43MB)