Gogledd Cymru

Llwybr golygfaol yn llawn bywyd gwyllt, trefi glan môr, a gwarchodfeydd natur

Hawlfraint y Goron

Cadwch ar gyfer wedyn
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dewch i ddarganfod rhan ogleddol Llwybr Arfordir Cymru sydd wedi’i lleoli yn siroedd Conwy a Dinbych – llwybr golygfaol sy’n llawn bywyd gwyllt, trefi glan môr, a gwarchodfeydd natur. 

Beth i’w ddisgwyl

Mae’r deithlen hon yn rhannu’r llwybr yn chwe rhan sy’n ddiwrnod o hyd yr un, pob un yn cychwyn o fan ganolog. Mae rhai rhannau’n hirach gan fod llety yn gyfyngedig, ac er bod rhannau yn dilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae eraill ar lwybrau troed yn unig. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn agos iawn at rai gwarchodfeydd natur anhygoel gan roi’r cyfle delfrydol i ddod yn agosach at fyd natur a’r arfordir. 

Uchafbwyntiau’r Llwybr

  • Twyni Gronant: Safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a safle bridio ar gyfer y môr-wennol fechan a llyffant y twyni.
  • Parc Gwledig y Gogarth: Safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ardal cadwraeth arbennig, ac arfordir treftadaeth. Mae tollffordd unffordd o’r Gogarth. Mae Tramffordd y Gogarth yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio â llaw plygadwy. Cewch fwynhau golygfeydd gwych o waelod y tirnod eiconig hwn, ac o’r copa. 
  • RSPB Conwy: Gwarchodfa natur sy’n hafan ar gyfer rhydwyr ac adar dŵr, yn enwedig yn ystod yr hydref a’r gaeaf rhwng mis Awst a mis Mawrth. Ewch i RSPB Conwy am ragor o wybodaeth.
  • Gwarchodfa Natur Morfa Madryn: Gwarchodfa natur leol gyda chyfleoedd gwych i weld adar a gweision y neidr.

Mannau Cychwyn

Mae amryw o fannau cychwyn ar hyd y rhan hon y gellir eu cyrraedd ar hyd yr arfordir gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Crynodeb o’r Llwybr

Mae chwe llwybr lle’r ydych chi’n mynd allan ac yn dod yn ôl yr un ffordd. Os ydych chi eisiau mynd ychydig ymhellach, mae’r rhannau hyn wedi’u cynllunio fel y gallwch chi deithio cymaint â 41.5 milltir/67.5 cilometr i un cyfeiriad. 

  • Llwybr 1: O Brestatyn hyd at Dwyni Gronant ac yna troi yn ôl. Mae hon yn daith ddymunol 4 milltir/7 cilometr gyda golygfeydd arfordirol a digonedd o natur i’w gweld ar hyd y ffordd.
  • Llwybr 2: Taith 4 milltir /7 cilometr ar droed o Brestatyn i’r Rhyl. Byddwch chi’n gweld bywyd gwyllt a golygfeydd arfordirol, gyda chyfle i aros am hoe mewn caffi neu ddau.
  • Llwybr 3: Dechreuwch yn y Rhyl a cherddwch 10 milltir /17 cilometr i Fae Colwyn. Mae’n ffordd wych o fwynhau’r arfordir, a mwynhau paned yn yr awyr iach.
  • Llwybr 4: Dechreuwch ym Mae Colwyn a cherddwch 6 milltir/9 cilometr i Landudno. Mwynhewch lannau môr bywiog Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos.
  • Llwybr 5: Dechreuwch yn Llandudno a cherddwch 8 milltir/12.5 cilometr i Ddeganwy. Mwynhewch gyrchfan Fictoraidd Llandudno a golygfeydd o’r Gogarth.
  • Llwybr 6: Dechreuwch yn Neganwy a cherddwch 9.5 milltir/15 cilometr i Lanfairfechan. Mwynhewch olygfeydd gwych ar draws aber Conwy o gastell a thref Conwy, gyda’r opsiwn o ymweld â gwarchodfa RSPB Conwy.

Gwybodaeth bwysig i ymwelwyr 

Noder nad ydym yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw fusnesau unigol dros unrhyw rai eraill a restrir ar y dudalen hon. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwirio gydag unrhyw fusnesau neu ddarparwyr gwasanaethau ymlaen llaw i sicrhau eu bod yn diwallu eich anghenion fel rhan o’ch cynllunio.

Noder bod yr wybodaeth sy’n ymwneud ag enwau busnesau yn gywir adeg cyhoeddi (mis Hydref 2025). Cysylltwch â ni i roi gwybod am unrhyw ddiweddariadau.

Toiledau Cyhoeddus

Mae rhagor o wybodaeth am y toiledau, ac argaeledd toiledau hygyrch sy’n cael eu gweithredu ag allwedd RADAR, ar hyd y rhan hon o’r llwybr ar gael yma: toiledau cyhoeddus yn sir Conwy, neu yma: toiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru, adnodd cynllunio teithiau ar-lein Cymru i weld pa ddulliau teithio sydd ar gael mewn ardal.  Cadwch lygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni, a dysgwch fwy am drafnidiaeth hygyrch yng Nghymru. Nodir isod manylion penodol am hygyrchedd gorsafoedd rheilffyrdd sydd wedi’u lleoli ar hyd rhai o’r llwybrau. 

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd wedi’i fapio ar Google Street View, lle gallwch weld y llwybr a phenderfynu a ydyw’n addas i chi a’ch cyfarpar. 

Llwybr 1: Prestatyn i Dwyni Gronant, Sir Ddinbych

Mwynhewch olygfeydd arfordirol a bywyd gwyllt wrth i chi gerdded o Brestatyn i Dwyni Gronant yn Sir Ddinbych. Mae’r llwybr hwn yn cynnwys llwybrau pren a llwybrau tywodlyd, gyda digon o fyd natur i’w weld ar hyd y ffordd. Mae gwter a chwrs golff Prestatyn yn lleoedd gwych ar gyfer gwylio adar – cofiwch ddod â’ch binocwlars. Mae Twyni Gronant yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn gartref i fôr-wenoliaid bach a llyffantod y twyni.

  • Man cychwyn: Dechreuwch o Westy’r Traethau, Prestatyn. Mae opsiynau eraill yn cynnwys gorsaf reilffordd Prestatyn, safleoedd bws lleol, neu feysydd parcio yng Nghanolfan Nova neu Draeth Barkby. Am daith gerdded fyrrach, defnyddiwch y maes parcio cyhoeddus sydd â mannau parcio Bathodyn Glas ar Shore Road, Gronant.
  • Pellter: 4 milltir /7 cilometr.
  • Arwyneb: Mae wyneb y llwybr yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau pren ac ardaloedd tywodlyd, a all fod yn anodd i gyfarpar sydd â theiars na ellir eu defnyddio oddi ar y ffordd.
  • Llethrau: Mae rhai llethrau serth ar y twyni o hyd at 8 y cant.
  • Cynnydd mewn uchder: 100 troedfedd /20 metr.
  • Lled y llwybr: Mae ambell ran o’r llwybr yn gulach nag 1.2 metr.
  • Rhwystrau posibl: Gall tywod gronni ar lwybrau a llwybrau pren, yn enwedig tuag at Dwyni Gronant.
  • Cyfleusterau: Mae cyfleusterau parcio ar gael yng Ngwesty’r Traethau, Canolfan Nova, Traeth Barkby, a Shore Road (mannau parcio Bathodyn Glas)

Llwybr 2: Prestatyn i’r Rhyl, Sir Ddinbych

Mae Llwybr Arfordir Cymru o Brestatyn i’r Rhyl yn cynnig cyfleoedd amrywiol i weld bywyd gwyllt a golygfeydd arfordirol o lwybrau pren a phromenadau, gyda’r cyfle i aros am hoe mewn caffi neu ddau ar y ffordd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn wastad, ac mae’r golygfeydd yn wych ar hyd y llwybr.

  • Man cychwyn: Gwesty’r Traethau, Prestatyn. Gallai mannau cychwyn amgen gynnwys gorsaf reilffordd Prestatyn, safleoedd bws lleol, neu un o’r meysydd parcio yng Nghanolfan Nova neu Draeth Barkby.
  • Pellter: Tua 4 milltir /7 cilometr.
  • Arwyneb: Mae yna arwynebau seliedig ac mae tywod yn drifftio o’r twyni i’r llwybr mewn mannau.
  • Arwynebau seliedig a llethrau nad ydynt yn serth.
  • Llethrau: Mae yna lethrau nad ydynt yn serth heb unrhyw oleddfau serth.
  • Cynnydd mewn uchder: 115 troedfedd/35 metr.
  • Rhwystrau posibl: Gall tywod gronni ar lwybrau a llwybrau pren.
  • Cyfleusterau: Mae cyfleusterau parcio ar gael yng Ngwesty’r Traethau, Canolfan Nova, Traeth Barkby, a Shore Road (mannau parcio Bathodyn Glas).

Llwybr 3:Y Rhyl i Fae Colwyn, Conwy 

Mae Llwybr Arfordir Cymru rhwng y Rhyl a Bae Colwyn yn fwy bryniog, ac y mae rhannau o’r llwybr yn cael eu gorchuddio gan dywod wedi’i chwythu, felly efallai y bydd angen cymorth ar rai pobl wrth gerdded y rhannau hyn. Mae’r llwybr yn mynd yn agos iawn at y traeth mewn mannau, ac mae’r golygfeydd yn ysblennydd.

Yn wastad ar y cyfan, ac yn cynnig golygfeydd gwych ar hyd y llwybr. Ym Mae Colwyn mae’r llwybr yn mynd o dan y rheilffordd a ffordd yr A55, ac yn parhau am bellter byr ar hyd ffordd y B5113 i gyrraedd Travelodge, sy’n cynnig rhywle i aros.

I’r rhai sydd eisiau parhau i Landudno heb aros ym Mae Colwyn mae toiledau a chaffis hygyrch ar hyd y promenâd, megis siop hufen iâ Parisella.

  • Man cychwyn: Premier Inn, Glan Môr y Rhyl. Gallai mannau cychwyn amgen gynnwys gorsaf reilffordd y Rhyl, safleoedd bws lleol, neu lety arall gerllaw.
  • Pellter: Tua 10 milltir/17 cilometr.
  • Arwyneb: Mae arwynebau seliedig ar hyd y llwybr, er y gall tywod gronni mewn rhannau. Mewn mannau, gall tywod dwfn fod yn rhwystr, gan wneud y llwybr yn anaddas i rai offer symudedd.
  • Llethrau: Byddwch yn ymwybodol o lethrau serth mewn mannau, yn enwedig rhwng Pen-sarn a Bae Colwyn, gyda rhai rhannau â graddiant mor serth â 10 y cant.
    Cynnydd mewn uchder: 416 troedfedd / 127 metr. Mae llethrau serth rhwng Pen-sarn a Bae Colwyn.
  • Rhwystrau posibl: Yng nghyfeirnod grid SH 99281 80985, mae dyddodion tywod dwfn ar y llwybr yn ei gwneud yn anaddas i rai offer symudedd a beiciau ansafonol. Mae dargyfeiriadau’n bosibl ar hyd ffordd yr A548 a llwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
  • Trafnidiaeth gyhoeddus: Mae gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn ychydig dros 4 milltir/7 cilometr ar hyd y llwybr. Gallwch ddal y trên yn ôl i’r Rhyl neu i Fae Colwyn o’r fan hon. Yng ngorsaf reilffordd Bae Colwyn ceir mynediad di-risiau i bob platfform ar gyfer teithiau cysylltiol.
  • Cyfleusterau: Mae mannau parcio ar gael yn Premier Inn Glan Môr y Rhyl a lleoliadau cyfagos eraill. Mae toiledau cyhoeddus y mae angen allwedd RADAR ar eu cyfer ar gael, gan gynnwys ym Mhen-sarn a Bae Colwyn.

Llwybr 4: Bae Colwyn i Landudno, Conwy

Mae’r llwybr yn cychwyn yn Travelodge Bae Colwyn ac yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru i Landudno, gan fynd ar hyd lan y môr ym Mae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Penrhyn, ac wrth ymyl ardal Trwyn y Fuwch. Mae digon o leoedd i aros i fwyta ac yfed ar lannau môr bywiog Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos.

Mae’r rhan hon yn dod i ben yn nhref wyliau Fictoraidd gain Llandudno, lle ceir amrywiaeth o leoedd i fwyta, yfed, ac aros ynddynt. Mae yna rai llethrau serth a mannau garw, yn enwedig ger ardal Trwyn y Fuwch. Gall y llwybr fod yn gul ac yn dywodlyd mewn rhai mannau.

  • Man cychwyn: Travelodge Bae Colwyn. Mae mannau cychwyn amgen yn cynnwys gorsaf reilffordd Bae Colwyn, safleoedd bws lleol, neu lety gerllaw.
  • Pellter: Tua 6 milltir/9 cilometr.
  • Arwyneb: Arwynebau seliedig gyda rhai mannau garw neu gul, yn enwedig ger Trwyn y Fuwch ac ar ôl maes parcio Dale Road.
  • Llethrau: Rhai mannau serth, yn amrywio rhwng 14 ac 16 y cant o amgylch Bae Penrhyn a Thrwyn y Fuwch.
  • Cynnydd mewn uchder: 370 troedfedd /113 metr.
  • Rhwystrau posibl: Mae grisiau ar y llwybr ger Trwyn y Fuwch, sy’n gwneud y llwybr yn anhygyrch i bobl sy’n defnyddio offer symudedd a beiciau ansafonol. Yn ogystal, mae rhai rhannau o’r llwybr ger maes parcio Dale Road yn arw, yn gul, ac yn dywodlyd, sy’n ei gwneud yn anaddas i offer symudedd. Mae llwybr dargyfeirio ar gael ar hyd llwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol neu ffordd y B5115.
  • Cyfleusterau: Mae mannau parcio ar gael yn Travelodge Bae Colwyn a lleoliadau cyfagos, megis Dale Road.

Llwybr 5: Llandudno i Ddeganwy, Conwy

Mae tref Fictoraidd gain Llandudno wedi’i lleoli wrth droed brigiad calchfaen y Gogarth, sy’n safle delfrydol ar gyfer gwylio adar. Mae Llandudno yn lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio rhannau eraill ar y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru os ydyw’n well gennych aros mewn un lle.

Byddai Deganwy, Conwy a Llandudno yn lleoliadau da i bobl sydd am archwilio RSPB Conwy. Llwybr ychwanegol o amgylch y Gogarth, gan ddechrau ar bromenâd Llandudno a dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Marine Drive tuag at Ddeganwy. Mae’r rhan hon yn cynnwys ardaloedd lle gellir dringo i fyny’r Gogarth, a gellir cyrraedd y copa mewn car neu dram. 

  • Man cychwyn: Llandudno – Lleoliad canolog ar y promenâd (mae gwestai penodol yn cynnwys Gwesty Cae Môr, Gwesty’r Imperial, Gwesty St George). Mae mannau cychwyn amgen yn cynnwys gorsaf reilffordd Llandudno, safleoedd bws lleol, neu lety gerllaw.
  • Pellter: Tua 8 milltir /12.5 cilometr.
  • Arwyneb: Mae yna arwynebau seliedig, ond mae gan rai rhannau lethrau serth, yn enwedig ar Marine Drive. Mae’r llwybr yn troi’n arw, yn gul, ac yn dywodlyd ym maes parcio Dale Road.
  • Llethrau: Yn serth â graddiant o 16 y cant, yn enwedig os ydych chi’n cymryd y llwybr o amgylch y Gogarth.
  • Cynnydd mewn uchder: tua 200 metr/660 troedfedd.
  • Rhwystrau posibl: Mae’r llwybr rhwng maes parcio Dale Road a Deganwy yn addas i’r rhan fwyaf o offer symudedd a beiciau ansafonol. Efallai y bydd yn well gan rai pobl gadw at y palmant ar ffordd yr A546 am ran olaf y llwybr i Westy’r Cei. Mae yna rai llethrau serth iawn, yn enwedig o amgylch Marine Drive ac i fyny’r Gogarth. Mae’r llwybr yn heriol oherwydd y llethrau serth, yn enwedig ar y Gogarth. 
    Cyfleusterau: Mae mannau parcio ar gael yng Ngwesty’r Cei, Deganwy, a lleoliadau eraill, megis Dale Road.

Llwybr 6: Deganwy i Lanfairfechan, Conwy

Mae’r rhan hwn yn cynnig golygfeydd gwych ar draws aber Conwy o gastell a thref Conwy, gyda’r opsiwn o ymweld â gwarchodfa RSPB Conwy – gwyriad o ryw filltir o Gob Conwy, rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r llain hon o dir yn gwahanu pont Conwy a’r lan sydd ar ochr arall yr aber yng Nghyffordd Llandudno.

O dref Conwy mae’r llwybr yn mynd ar hyd aber Conwy drwy’r marina ac ymlaen i lwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy Forfa Conwy. Mae’r llwybr yn dilyn llwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhwng yr arfordir a ffordd yr A55 i Lanfairfechan. Nodwch fod y llwybr rhwng Morfa Conwy a Llanfairfechan yn dilyn ffordd brysur yr A55, ac felly gall fod yn swnllyd. Fodd bynnag, mae’r golygfeydd yn gwneud hon yn rhan werth chweil.

Mae uchafbwyntiau’r llwybr yn cynnwys gwarchodfa RSPB Conwy. Ar lan môr Llanfairfechan mae yna gaffis, toiledau, a mynediad i warchodfa natur tua 2 gilometr i’r gorllewin, gyda chuddfannau i wylio adar a golygfeydd rhagorol. Tua 1.5 milltir i’r gorllewin o Lanfairfechan ar Lwybr Arfordir Cymru mae Gwarchodfa Natur Morfa Madryn gyda thraeth golygfaol a chuddfannau i wylio adar gyda mynediad â ramp.

  • Man cychwyn: Gwesty’r Cei, Deganwy (mae mannau cychwyn amgen yn cynnwys gorsaf reilffordd Deganwy neu safleoedd bws lleol).
  • Pellter: Tua 9.5 milltir / 15 cilometr.
  • Arwyneb: Mae yna arwynebau seliedig. Mae’r llwybr yn cynnwys rampiau mynediad a rhywfaint o dirwedd heriol, yn enwedig ger croesfannau ffordd yr A55. Mae’r llwybr hefyd yn mynd trwy dwyni tywod mewn rhai mannau.
  • Llethrau: Mae llethrau serth wrth sawl ramp mynediad, yn enwedig wrth groesi ffordd yr A55. Mae’r llethrau’n serth yn gyffredinol, a all fod yn anodd i rai offer symudedd.
  • Cynnydd mewn uchder: tua 500 troedfedd / 150 metr.
  • Rhwystrau posibl: Mae’r llwybr yn culhau mewn rhai mannau a gall ddod yn anodd ei lywio, yn enwedig yn y twyni tywod a ger rampiau mynediad serth. Gall rampiau mynediad a chorneli llym o amgylch croesfannau ffordd yr A55 fod yn rhwystrau i rai defnyddwyr. Mae twyni tywod mewn ardaloedd megis Morfa Conwy yn golygu bod rhannau o’r llwybr yn anaddas i feiciau ansafonol ac offer symudedd.
  • Ar ôl Morfa Conwy, efallai y bydd angen dilyn llwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i osgoi rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n anaddas.Mae llwybr beicio rhif 5 hefyd yn darparu llwybr i Fangor, dinas fach â phrifysgol.  
  • Ym mhen Deganwy o Lwybr Arfordir Cymru, mae’r llwybr yn mynd trwy dwyni tywod, sy’n ei gwneud yn anaddas i offer symudedd a beiciau ansafonol.
  • Trafnidiaeth gyhoeddus: Mae yna opsiwn i ddal trên tua’r dwyrain o orsaf reilffordd Llanfairfechan ond nid oes mynediad di-risiau ar gyfer y platfform tua’r gorllewin i Fangor. Mae gan orsaf reilffordd Bangor fynediad di-risiau i bob platfform.
  • Cyfleusterau: Mae mannau parcio ar gael yng Ngwesty’r Cei, Deganwy, a mannau ychwanegol ar hyd y llwybr mewn gwahanol leoliadau megis Llanfairfechan. Mae toiledau cyhoeddus y mae angen allwedd RADAR ar eu cyfer ar gael yn Neganwy, Llanfairfechan, a Chonwy.

Llety a Gwersylla

Mae nifer o safleoedd gwersylla a gwestai addas yn yr ardal fel y gall pobl deithio rhwng arosiadau dros nos.

Prestatyn

Mae Gwesty’r Traethau yn cynnig llety addas, gan gynnwys ystafelloedd ar y llawr daear.  Mae gan yr ystafelloedd rai canllawiau cydio wrth ymyl y toiled ac yn y ciwbicl cawod. Efallai y bydd rhai pobl sy’n gallu cerdded ychydig yn gweld y llety hwn yn addas.

Y Rhyl

Mae Premier Inn Glan Môr y Rhyl a Travelodge Glan Môr y Rhyl yn opsiynau ar gyfer llety addas.

Bae Colwyn

Mae Travelodge Bae Colwyn yn opsiwn ar gyfer llety addas.

Llandudno

Llandudno sydd â’r opsiynau gorau o ran llety addas, a byddai’n lle da i aros pe byddai’n well gan rywun lleoliad canolog. Mae’r gwestai sydd â chyfleusterau ar gyfer pobl anabl yn cynnwys Gwesty Cae Môr, Gwesty’r Imperial a Gwesty St George. Mae gan y gwestai hyn gawodydd y gellir cerdded i mewn iddynt, ond nid oes sedd gawod sefydlog ar y wal. Mae seddi cludadwy sy’n sefyll ar eu pen eu hun ar gael ar gais. Mae yna hefyd westai cadwyn megis Travel Inn a Travelodge, sydd ag ystafelloedd wedi’u haddasu ac ystafelloedd ymolchi en suite.

Deganwy

Mae Gwesty’r Cei yn cynnig gwahanol opsiynau o ran ystafelloedd, megis ystafelloedd ymolchi en suite sydd wedi’u haddasu ar gyfer pobl anabl, sy’n cynnwys ystafelloedd cawod llawr gwlyb a seddi cawod wedi’u gosod ar y wal.

Conwy

Mae gan Gymdeithas yr Hostelau Ieuenctid Conwy un ystafell wedi’i haddasu, ac mae’r datganiad hygyrchedd yn disgrifio’r ystafell fel: “Un ystafell hygyrch en suite sy’n cynnig lle i hyd at dri o bobl gysgu ynddi. Mae’n cynnwys gwely bync sengl uchel gyda gwely dwbl oddi tano. Mae’r ystafell ymolchi en suite yn cynnwys toiled gyda chanllawiau cydio a lle i symud o’r gadair olwyn ar ochr dde’r toiled. Mae yno gadair gawod y gellir eu plygu i lawr ond nid oes canllawiau cydio, ac nid yw’n hygyrch yn ôl safonau modern.” Ymwelwch â hosteli hygyrch Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid

Llanfairfechan

Dyma gyrchfan derfynol y llwybr, ond nid oes llety hygyrch yno. Mae gan yr orsaf reilffordd blatfform hygyrch i bobl sy’n teithio tua’r dwyrain, a gellid defnyddio’r gwasanaeth trên i ddychwelyd i ddechrau’r llwybr. Nid yw’r platfform tua’r gorllewin i Fangor yn hygyrch.

Bangor

Dim ond i Lanfairfechan y mae’r llwybr wedi’i wirio. Gellid defnyddio llwybr beicio rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, neu fws rhif 5 i gyrraedd Bangor. Mae dwy ystafell (sengl a dwbl) gydag ystafelloedd ymolchi en suite wedi’u haddasu yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor.

Ceir mwy o adnoddau ar-lein i’ch helpu i chwilio am lety ar hyd y llwybr. Chwiliwch y gwefannau swyddogol ar gyfer Premier Inn a Travelodge.

Cludiant 

Mae arfordir gogledd Cymru yn cael ei wasanaethu’n dda gan fysiau a threnau, ac y mae rhai tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael. Defnyddiwch Traveline Cymru i gynllunio eich taith, a dod o hyd i amserlenni cyfredol a map o orsafoedd bysiau a rheilffyrdd, y gallwch eu gweld ar Google Street View.

Llwybrau Bysiau

Mae sawl gwasanaeth bws yn gwasanaethu ar hyd gwahanol rannau o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Prestatyn a Bangor. 

  • Mae gwasanaeth rhif 11 yn rhedeg rhwng Prestatyn a’r Rhyl.
  • Mae gwasanaeth rhif 12 / X12 yn rhedeg rhwng y Rhyl a Llandudno.
  • Mae gwasanaeth rhif 13 yn rhedeg rhwng Prestatyn a Llandudno, ond nid yw’n stopio yn y Rhyl.
  • Mae gwasanaeth rhif 5 yn rhedeg rhwng Llandudno a Bangor, gan stopio yng Nghonwy a Llanfairfechan.

Trenau 

Ceir gorsafoedd rheilffyrdd gyda mynediad heb risiau i bob platfform / y platfform ar hyd y llwybr ym Mhrestatyn, Y Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno, Deganwy a Bangor.

Mae National Rail yn datgan, o ran y gorsafoedd yng Nghonwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan, “gall rhywfaint o’r mynediad fod heb risiau, ond efallai i un cyfeiriad yn unig – gwiriwch y manylion.” Dim ond i’r platfform tua’r dwyrain y mae gan orsaf reilffordd Llanfairfechan fynediad heb risiau. Darllenwch am y prif orsafoedd rheilffyrdd ar hyd y llwybr.  

Tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn

Mae yna rai tacsis sy’n gallu darparu ar gyfer cadeiriau olwyn.

  • Mae Busy Bee Taxis yn gwasanaethu Prestatyn, y Rhyl a Bae Cinmel, ac mae ganddynt gerbydau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
  • Mae gan Castle Cabs yng Nghonwy un cerbyd sy’n addas ar gyfer cadair olwyn.
  • Efallai y bydd gan Uber hefyd gerbydau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ym Mangor ac ardaloedd eraill.

Mwy o gwybodaeth

Mae gan y gwefannau canlynol ragor o wybodaeth am deithio, ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i wneud y gorau o’ch amser ar y llwybr.

  • Gwefan swyddogol Croeso Cymru i gael syniadau gwych ar gyfer gwyliau yng Nghymru, seibiannau i’r teulu, gwyliau penwythnos, a gwyliau cerdded.
  • Go North Wales yw gwefan twristiaeth swyddogol gogledd Cymru. Mae gogledd Cymru yn faes chwarae llawn antur lle mae modd gwneud gweithgareddau a fydd yn siŵr o fodloni’r rhan fwyaf o unigolion sy’n byw ar eu hadrenalin.
  • Mae gwefan dwristiaeth swyddogol Dewch i Gonwy yn cynnig llawer mwy o ysbrydoliaeth teithio, gan gynnwys ble i aros a phethau i’w gwneud, megis traethau anhygoel, ceir cebl a phier Llandudno, theatrau rhagorol, sw hynod ddiddorol, cyrsiau golff o’r radd flaenaf, mynyddoedd mawr a chestyll.